|
|
|
|
|
|
|
|
Cliciwch am fap manwl o'r llwybr (Caewch y ffenestr er mwyn dychwelyd i'r dudalen yma) Mae'r llwybr yn dilyn y llwybrau troed o Dresaith ar hyd Afon Saith yn ogystal â‘r llwybr ar ben y clogwyn i Aberporth sydd gerllaw. Mae'r llwybr i mewn o'r arfordir yn mynd drwy goedwig cyn dod allan ar dir amaethyddol sy'n nodweddiadol o dirwedd arfordir Ceredigion.
Roedd y ddau bentref arfordirol hyn yn ganolfannau pwysig ar un adeg ar gyfer llongau'n hwylio heibio i Fae Ceredigion a'r tu hwnt. TresaithMae pentref glan môr Tresaith yn swatio yng nghysgod clogwyni siâl serth sy'n tyrru uwchlaw'r traeth tywod deniadol a môr Bae Ceredigion. Arferai Afon Saith lifo i'r afon yma ond ar ôl cael ei dargyfeirio yn ystod yr Oes Iâ ddiwethaf, mae i'w gweld yn disgyn yn rhaeadr dros y clogwyni.
Mae sawl ystyr wedi'i gynnig ar gyfer yr enw Tresaith. Un cynnig yw ei fod yn dalfyriad o ‘Traeth Saith' – traeth y saith. Yn ôl y chwedl gwthiodd brenin ei saith merch allan mewn cwch heb na hwyliau na rhwyfau. Fe lanion nhw ar y traeth yma ac yna meddiannu'r saith fferm orau yn y sir.
Dydy'r pentref ei hun ddim yn hen iawn - tan y 19eg ganrif dim ond dau adeilad oedd yno, sef y ‘Ship Inn' a bwthyn to gwellt. Perchenogion llongau oedd perchennog Tafarn y Ship, teulu'r Parry, rhwng tua 1830 a 1905. Adeiladwyd y llong gyntaf, cwch pysgota 25 tunnell â'r enw ‘New Hope' yn Nhresaith ym 1827. Cludai'r llongau a hwyliai o Dresaith lo mân a chalchfaen i'r pentref.
Mae'r llecyn islaw'r clogwyni, yn gynefin i gyfoeth o fywyd gwyllt y môr. Mae'r gwymon ar y creigiau yn gysgod i honosiaid (ling), llyfrothod (blennies) a llyswennod ac yn guddfan i wrachod y môr (wrasse). AberporthMae'r llwybr ar ben y clogwyn o Dresaith yn arwain at bentref Aberporth, tua 1½ milltir / 2 km i ffwrdd. Edrychwch am y glochdar y graig (stonechat), corhedydd y waun (meadow pipits) ac efallai y brain coesgoch (chough) prin. Yn ystod yr haf, gallwch weld gloynnod byw ar hyd y llwybr, yn arbennig yr ardaloedd hynny sy'n cael eu diogelu gan brysgwydd y ddraenen ddu.
Codwyd anheddiad cynharaf Aberporth ar Ben Trwyn Cynwyl, y sbardun cul o dir rhwng y ddau draeth. Enwyd y pwynt er cof am Sant Cynwyl a chysegrwyd eglwys y llan yn ei enw hefyd. Mae sôn amdano yn stori ‘Culhwch ac Olwen' yn y Mabinogion a dywedir iddo fod yn un o'r tri a ddihangodd o Frwydr Camlan. Roedd Aberporth yn enwog hefyd am bysgota ysgadan. Defnyddiwyd cychod rhwyfo trwm â hwyliau. Roedd criw o ryw 5 i 8 ym mhob cwch ac roedd gan bob aelod o'r criw 4 i 5 rhwyd. Câi'r ysgadan eu halltu'n dda a'u storio ar ben ei gilydd ar gyfer y gaeaf – byddai gan bob teulu storfa neu sied arbennig at y pwrpas hwn. Roedd pysgota ysgadan yn dal i fod yn boblogaidd tan ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf.
Datblygodd y pentref yn gyflym tua diwedd yr 17eg ganrif ac ar ddechrau'r 18fed ganrif yn ganolfan forwrol. Erbyn canol y 19eg ganrif roedd yno lawer o longau ym meddiant teuluoedd o Aberporth. Roedd angorfa ddiogel gysgodol yn y traeth mwyaf gogleddol sef Traeth y Dyffryn neu Draeth y Llongau.
Cludiant Cyhoeddus:
Mae gan Geredigion rwydwaith eang o wasanaethau bysys lleol sy'n cysylltu trefi a phentrefi â'i gilydd. Mae yna wasanaethau trên hefyd yn cysylltu Aberystwyth â'r gogledd a'r dwyrain tra bo Bws Post yn gwasanaethu gogledd y Sir. Beth am ddefnyddio un o'r gwasanaethau hyn i'ch helpu i ddarganfod Ceredigion. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y gwasanaethau hyn cysylltwch â'r canlynol: Cludiant Cyhoeddus: 0870 608 2 608
Am ragor o wybodaeth am gludiant cyhoeddus edrychwch ar wefan Cyngor Sir Ceredigion. |
|
| |
|